Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Dyddiad: 10 Hydref 2012
Amser: 10:00 – 11:00
Lleoliad: Senedd
Teitl: Cyllideb Ddrafft Addysg a Sgiliau 2013-14
Pwrpas
1. Darparu papur tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y gyllideb Addysg a Sgiliau, blaenoriaethau ar gyfer 2013-14 a diweddariadau ar feysydd penodol o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
Amseriad
2. Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ar 2 Hydref 2012.
Cyllideb Ddrafft Addysg a Sgiliau 2013-14
3. Mae Cyllideb Ddrafft 2013-14 yn darparu cynllun dwy flynedd ar gyfer buddsoddi yn y ddarpariaeth o addysg a sgiliau yng Nghymru. Yn y Tabl 1 rhoddir trosolwg o’r gyllideb Addysg a Sgiliau arfaethedig, sef y ‘prif grŵp gwariant (MEG)’, ynghyd â’r newidiadau a wnaed yn y gyllideb ddangosol er pan gyhoeddwyd y Gyllideb Ddangosol ddiwethaf ym Mehefin 2012.
Tabl 1: MEG Addysg a Sgiliau
|
2012-13 |
2013-14 |
2013-14 |
2013-14 |
2014-15 |
2014-15 |
2014-15 |
|
|
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cynlluniau Dangosol y Gyllideb Derfynol |
Newidiadau |
Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft |
Cynlluniau Dangosol y Gyllideb Derfynol |
Newidiadau |
Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft |
|
|
|
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Refeniw |
1,676,529 |
1,694,824 |
-21,025 |
1,673,799 |
1,702,459 |
-20,825 |
1,681,634 |
|
DEL Cyfalaf |
178,293 |
143,834 |
33,300 |
177,134 |
143,834 |
10,000 |
153,834 |
|
Cyfanswm DEL |
1,854,822 |
1,838,658 |
12,275 |
1,850,933 |
1,846,293 |
-10,825 |
1,835,468 |
|
Gwariant a Reolir yn Flynyddol |
178,309 |
161,285 |
15,584 |
176,869 |
153,310 |
29,839 |
183,149 |
|
Addysg a Sgiliau |
2,033,131 |
1,999,943 |
27,859 |
2,027,802 |
1,999,603 |
19,014 |
2,018,617 |
|
4. Mae’r gwariant refeniw ar gyfer 2013-14 £21m yn llai,, o gymharu â’r gyllideb ddangosol a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Derfynol yn Nhachwedd 2011, sef gostyngiad o 1.2%. Mae’r gyllideb ddangosol ar gyfer 2014-15 hefyd £20.8m (1.2%) yn llai, o gymharu â’r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd. Mae’r gostyngiad yn y gyllideb refeniw yn digwydd o ganlyniad i drosglwyddo cyllid i bortffolios eraill, yn hytrach na thoriad yn y gyllideb. Bydd Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am ariannu cyllidebau’r Fenter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd, Blas am Oes a’r Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion i Grant Cynnal Refeniw yr awdurdodau lleol. Canlyniad hynny fydd trosglwyddiad rheolaidd i’r MEG Llywodraeth Leol a Chymunedau, sef £21.8m yn 2013-14.
5. Mae’r gyllideb cyfalaf yn cynyddu o £33.3m i £177.1m yn 2013-14 ac o £10m yn 2014-15 o gymharu â’r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd.
6. Mae’r gyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) yn ymwneud yn gyfan gwbl â benthyciadau myfyrwyr, sy’n dibynnu ar y galw amdanynt ac yn sensitif i gyfraddau llog a ffactorau macro-economaidd eraill ac felly yn anodd i’w rhagweld. Cytunir y gyllideb hon gyda’r Trysorlys yn flynyddol a chyllidir hi’n llawn. Mae’r gyllideb yn cynyddu o £15.6m yn 2013-14, ac o £29.8m yn 2014-15.
7. Yn y cylch cyllidebu diwethaf, ailaliniwyd y MEG Addysg a Sgiliau er mwyn i’r adnoddau gyfateb i’r canlyniadau strategol adrannol ac er mwyn gwella tryloywder y cyllidebau. Cyhoeddwyd y cynlluniau cyllideb ar y lefel ‘Camau Gweithredu’ ar 2 Hydref. Rhoddir mwy o fanylion yn y tabl o’r llinellau gwariant cyllidebol (BEL) yn Atodiad 1.
Cyd-destun y Gyllideb
8. Mae’r gyllideb hon yn digwydd yng nghyd-destun y cyfyngiadau a osodwyd gan Lywodraeth y DU yn ei hadolygiad gwariant diwethaf, a’r cynlluniau i gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu yn ogystal â chyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol. Nid oes cyllid refeniw newydd ar gael, ac felly mae’r gyllideb hon yn trosglwyddo ymlaen, heb eu newid, lawer o’r cyllidebau dangosol a gymeradwywyd gan y Cynulliad yn Chwefror eleni. Fodd bynnag, mae’r MEG Addysg a Sgiliau wedi sicrhau dyraniadau cyfalaf ychwanegol o £33.3m yn 2013-14 (£10m yn 2014-15) i gynorthwyo gyda chyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i Hybu Twf a Swyddi ac ar gyfer prosiectau penodol o’r Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog:
· Buddsoddi yn Ysgolion yr 21ain Ganrif: £15m yn 2013-14 a 2014-15;
· estyn, adnewyddu ac adeiladu o’r newydd ysgolion uwchradd yn rhanbarth Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin: £7m yn 2013-14;
· prosiect Porth y Cymoedd i adeiladu ysgol newydd yn ardal Ton-du ym Mhen-y-bont ar Ogwr: £2.1m yn 2013-14;
· prosiect Ardal Ddysgu Merthyr i ddwyn at ei gilydd ddosbarthiadau chwech Merthyr Tudful, Coleg Merthyr Prifysgol Morgannwg, ac Athrofa Prifysgol Blaenau'r Cymoedd: £3m yn 2013-14;
· prosiect Ysgol y Bont ym Môn i gynorthwyo gydag adeiladu ysgol werdd newydd a modern: £4.7m yn 2013-14; a
· ysgol gyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Wrecsam yng Ngogledd Cymru: £1.5m.
9. Trosglwyddir £1.3m ychwanegol allan o Iaith Gymraeg i’r MEG Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu, swm sy’n cyfateb i gostau gweinyddu blaenorol Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a ddiddymwyd yn gynharach eleni.
10. Ar y llaw arall, trosglwyddir cyllid o £2.1m (£2.3m yn 2014-15) i mewn i Addysg a Sgiliau allan o’r MEG Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant ar gyfer taliadau i Brifysgol Caerdydd am hyfforddiant meddygol a deintyddol.
11. Mewn adolygiad o’r cyllidebau, a wnaed wrth baratoi’r gyllideb hon, canfuwyd £5.7m o arbedion posibl, sydd wedi eu hail flaenoriaethu ar gyfer ymrwymiadau eraill, megis cymorth i fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu mewn colegau AB, ac estyn yr hawl i gael Grant Amddifadedd Disgyblion i blant sy’n derbyn gofal.
12. Wrth baratoi ar gyfer Cyllideb Derfynol 2012-13, cynhaliwyd ymarferiad ailalinio er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau gwario yn cyfateb i’n hamcanion strategol, sy’n cynnwys ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu (RhL). Yn y gyllideb hon, cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o’r cyllidebau, gan ystyried a oedd yr ymrwymiadau allweddol, gan gynnwys ymrwymiadau’r RhL, wedi eu cyllido’n ddigonol. Arweiniodd hynny at nifer o newidiadau yn ein cynigion ar gyfer gwariant, gan gynnwys y newidiadau a ddisgrifir ym mharagraffau 26 a 27 sy’n amcanu i ganolbwyntio adnoddau ar bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth na hyfforddiant. Rydym yn hyderus bod yr ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu yn cael eu hariannu’n ddigonol gan y gyllideb hon. Mae map o’n Camau Gweithredu gyferbyn ag Is-ganlyniadau’r RhL wedi ei gyhoeddi yn nogfen y Gyllideb Ddrafft. Byddwn yn parhau i fonitro’r perfformiad gyferbyn â’r ymrwymiadau RhL, yn rhan o’r broses o adrodd yn flynyddol.
13. Mae’r gyllideb hon yn cymryd i ystyriaeth ein rhaglen ddeddfwriaethol. Ynglŷn â’r Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), rydym wedi gwneud darpariaeth yn y gyllideb hon i drosglwyddo cyfanswm o £21.8m i’r Grant Cynnal Refeniw yn 2013-14. Bydd unrhyw gostau pellach mewn cysylltiad â datblygu gweithredu’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) a’r Bil Addysg (Cymru) yn cael eu diwallu o fewn y cynlluniau hyn. Ni ragwelir, fodd bynnag, y bydd unrhyw gostau sylweddol yn gysylltiedig â’r ddeddfwriaeth honno.
14. Rhoddwyd lle canolog i ystyriaethau cydraddoldeb wrth ddatblygu ein cynlluniau gwario; ac fel y gwnaed yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r newidiadau mewn cyllido sy’n tarddu o’r gyllideb hon wedi eu hasesu o ran eu heffaith ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydym hefyd wedi cadw mewn cof ein hymrwymiadau o dan Gynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, sef yn benodol, lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Crynodeb o Newidiadau’r Gyllideb Ddrafft
15.Darperir crynodeb isod o’r newidiadau cyllidebol drafft ar gyfer pob cyllideb lefel Camau Gweithredu, ynghyd â diweddariadau ar feysydd o ddiddordeb penodol a nodwyd gan y Cadeirydd yn ei llythyr dyddiedig 12 Medi 2012.
Safonau Addysg a Hyfforddiant: “codi safonau’r ddarpariaeth o addysg a hyfforddiant, y cyrhaeddiad a’r seilwaith ledled Cymru, fel y gall pawb wireddu eu potensial.”
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cyllideb Ddrafft |
Cyllideb Ddangosol |
£000 |
£000 |
£000 |
1,166,961 |
1,184,252 |
1,189,052 |
Llythrennedd a Rhifedd:
Cyllideb 2013-14 £7.5m
16. Ni chynigir unrhyw newidiadau yn y gyllideb llythrennedd a rhifedd yn y cylch cyllidebu hwn. Fodd bynnag, mae cyllideb 2013-14 £2m yn fwy, o gymharu â chyllideb derfynol 2012-13.
Cwricwlwm: Cyllideb 2013-14 £125.1m
17. Mae’r gyllideb yn cynyddu o £2.4m net, o gymharu â 2012-13. Mae’r gyllideb yn cynnwys Dysgu 14-19 a’r Cyfnod Sylfaen. Ein bwriad yw lleihau’r gyllideb o £0.9m, o gymharu â’r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd eisoes. Yn ein hadolygiad o gyllidebau, canfuwyd arbedion rheolaidd o £0.2m gyferbyn â’r gyllideb Dysgu 14-19. Trosglwyddwyd £0.7m arall ar sail reolaidd i’r gyllideb Gwasanaethau Ymchwil a Gwerthuso Addysg ar gyfer Cymorth Cyflawni. Gwnaed hyn o ganlyniad i gyfuno mewn un rhaglen y cyllidebau ar gyfer ymchwil ryngwladol a gwerthuso. Mae cyllideb y cyfnod sylfaen yn cynyddu o £3.9m o gymharu â 2012-13.
Addysgu ac Arweinyddiaeth: Cyllideb 2013-14 £19.8m
18. Mae’r gyllideb yn llai o £0.1m net, o gymharu â 2012-13. Ein bwriad yw lleihau’r gyllideb o £0.1m, o gymharu â’r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd eisoes. Trosglwyddwyd £0.1m ar sail reolaidd i’r gyllideb Gwasanaethau Ymchwil a Gwerthuso Addysg ar gyfer Cymorth Cyflawni. Mae hyn yn ganlyniad y cyfuno y cyfeirir ato ym mharagraff 17.
Cymwysterau: Cyllideb 2013-14 £5m
19. Mae’r gyllideb yn llai o £3.8m net, o gymharu â 2012-13. Mae’r Fagloriaeth Gymreig wedi ei sefydlu’n gadarn bellach a’n bwriad yw trosglwyddo £4.7m i Addysg Ôl-16 er mwyn galluogi’r colegau addysg bellach i gyflenwi’r Fagloriaeth Gymreig. Adlewyrchid y trosglwyddiad hwn eisoes yng nghyllideb 2012-13. Yn ychwanegol, canfuwyd arbedion rheolaidd o £3.8m o ganlyniad i’n hadolygiad o gyllidebau. Rydym bellach wedi cyrraedd cam olaf ein Hadolygiad o Gymwysterau 14-19. Bydd y Bwrdd Adolygu yn cyflwyno’i ganfyddiadau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau erbyn diwedd Tachwedd.
Addysg Ôl-16: Cyllideb 2013-14 £563m
20. Mae’r gyllideb yn cynyddu o £7.1m net, o gymharu â 2012-13. Mae’r gyllideb yn cynnwys cyllid prif-ffrwd ar gyfer dosbarthiadau chwech mewn ysgolion, colegau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith (gan gynnwys cyllid ESF a dderbynnir) a dysgu oedolion yn y gymuned. Yn y cylch cyllidebu hwn, ein bwriad yw cynyddu’r gyllideb o £4.6m (net). Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiad rheolaidd i mewn o £4.7m o Cymwysterau i alluogi’r colegau addysg bellach i gyflenwi’r Fagloriaeth Gymreig (adlewyrchwyd hyn eisoes yng nghyllideb 2012-13). Cynhwysir hefyd drosglwyddiad o £0.1 i’r gyllideb Gwasanaethau Ymchwil a Gwerthuso Addysg ar gyfer Cymorth Cyflawni. Gwneir hyn o ganlyniad i’r cyfuno y cyfeirir ato ym mharagraff 17. Mae’r cynlluniau hyn yn cynorthwyo’n llawn y ddarpariaeth i bobl ifanc sy’n dymuno aros yn yr ysgol neu fynd i goleg i wella’u sgiliau. Yn ogystal, mae’n adlewyrchu’r angen i gynnal y ddarpariaeth o sgiliau, er mwyn cynorthwyo twf yr economi i yn y dyfodol.
Addysg Uwch: Cyllideb 2013-14 £382.3m
21. Mae’r gyllideb yn llai o £0.1m net, o gymharu â 2012-13. Yn y gyllideb hon rydym wedi cynnwys trosglwyddiadau i mewn o £2.1m yn 2013-14 a £2.3m yn 2014-15 o’r MEG Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant ar gyfer taliadau i Brifysgol Caerdydd am hyfforddiant meddygol a deintyddol. Mae trosglwyddiad cyfatebol o £2m eisoes wedi ei gynnwys yng nghyllideb 2012-13.
Strwythurau Addysg: Cyllideb 2013-14 £2.9m
22. Mae’r gyllideb yn llai o £1m net, o gymharu â 2012-13. Mae a wnelo’r gyllideb hon ag agenda’r trawsnewid mewn addysg bellach. Ein bwriad yw lleihau’r gyllideb o £1m, o’r arbedion rheolaidd a ganfuwyd yn ein hadolygiad o’r cyllidebau.
Safonau Addysg: Cyllideb 2013-14 £34.4m
23. Mae’r gyllideb yn cynyddu o £6.6m net, o gymharu â 2012-13. Ni chynllunnir unrhyw newidiadau sylweddol yn y gyllideb hon. Fodd bynnag, mae codiadau o £6.6m yn 2013-14 a £2.9m yn 2014-15, a ganfuwyd drwy wella effeithlonrwydd, wedi eu cynnwys o’r cylchoedd cyllidebu blaenorol.
Grant Amddifadedd Disgyblion: Cyllideb 2013-14 £36.8m
24. Mae’r gyllideb yn cynyddu o £4.7m net, o gymharu â 2012-13. Cynhwyswyd cynnydd o £3.3m mewn cyllidebau blaenorol. Cynhwysir cynnydd pellach o £1.4m yn y gyllideb hon, a fydd yn caniatáu inni ddarparu cyllid hollbwysig ar gyfer plant mewn oedran ysgol sy’n derbyn gofal. Mae creu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn atgyfnerthu bwriad Llywodraeth Cymru i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol plant. Mae’n darparu cyllid ychwanegol sylweddol i blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn ymgymryd â’u cenhadaeth gyffredinol o symud y rhwystrau sy’n atal dysgu, a gosod safonau uchel a chyson ar gyfer pob plentyn.
TGCh a Systemau Rheoli Gwybodaeth: Cyllideb 2013-14 £7.4m
25. Mae’r gyllideb yn llai o £0.1m net, o gymharu â 2012-13. Mae’r gostyngiad yn ymwneud ag arbedion effeithlonrwydd a ganfuwyd mewn cyllidebau blaenorol. Ni chynigir unrhyw newidiadau yn y gyllideb hon.
Gweithlu Medrus: “Cyflenwi gweithlu sydd â sgiliau addas, ynghyd â chyfleoedd o ansawdd uchel i bob dysgwr.”
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cyllideb Ddrafft |
Cyllideb Ddangosol |
£000 |
£000 |
£000 |
89,649 |
81,403 |
81,403 |
Cyflogaeth a Sgiliau:
Cyllideb 2013-14 £31.7m
26.Mae’r gyllideb yn llai o £3.3m net, o gymharu â 2012-13. Mae’r cyllidebau blaenorol ar gyfer Datblygu Sgiliau a Dysgu yn y Gweithle a Chyflogadwyedd wedi eu had-drefnu i’w gwneud yn fwy cydnaws â’r Rhaglen Lywodraethu. Enw’r llinell wariant ‘Datblygu Sgiliau a Dysgu yn y Gweithle’ bellach yw ‘Cyflogaeth a Sgiliau', a throsglwyddwyd £3.7m i mewn iddi o’r gyllideb Cyflogadwyedd. Yn y gyllideb derfynol y llynedd, canfuwyd £7.2m o gyllid untro ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Ifanc a Sgiliau Twf Cymru, yn rhan o’r pecyn ysgogi economaidd na fydd yn cael ei gynnwys mewn cyllidebau yn y dyfodol. Mae swm o £0.2m wedi ei drosglwyddo ar sail reolaidd i’r gyllideb Gwasanaethau Ymchwil a Gwerthuso Addysg ar gyfer Cymorth Cyflawni. Gwnaed hyn o ganlyniad i’r cyfuno y cyfeirir ato ym mharagraff 17.
Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid: Cyllideb 2013-14 £19.7m
27. Mae’r gyllideb yn cynyddu o £1.1m net, o gymharu â 2012-13. Yn y gyllideb hon canolbwyntir ar ein hymrwymiad i leihau’r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Rydym hefyd wedi creu Is-adran Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid i yrru ymlaen â’r agenda bwysig hon. O ganlyniad, mae’r gyllideb Cefnogi Pobl Ifanc flaenorol o £5m wedi ei throsglwyddo i mewn, a £3.7m wedi ei drosglwyddo allan o’r gyllideb hon i’r gyllideb Cyflogaeth a Sgiliau. Yn ogystal, gwnaed lleihad o £0.2m o gymharu â’r cynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol, oherwydd trosglwyddo gweithgareddau rhyngwladol i’r gyllideb Gwasanaethau Ymchwil a Gwerthuso Addysg, yn rhan o ymarferiad lliflinio.
Dewisiadau Addysg a Gyrfa: Cyllideb 2013-14 £30m
28. Mae’r gyllideb yn llai o £6m net, o gymharu â 2012-13. Mae’r gostyngiadau yn ymwneud yn gyfan gwbl â newidiadau mewn cyllidebau blaenorol, pan wnaed arbedion drwy ad-drefnu’r dull o gyflenwi Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Lles Economaidd a Chymdeithasol a Lleihau Anghydraddoldeb: “Cynorthwyo unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau i wella lles economaidd a chymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb drwy gyfrwng addysg a hyfforddiant.”
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cyllideb Ddrafft |
Cyllideb Ddangosol |
£000 |
£000 |
£000 |
390,752 |
379,019 |
382,054 |
Lles Plant a Phobl Ifanc: Cyllideb 2013-14 £47.3m
29. Mae’r gyllideb yn llai o £15.3m net, o gymharu â 2012-13. Mae’r gyllideb hon yn cynnwys cyllid ar gyfer Lleoliadau i Fyfyrwyr ag Anawsterau Dysgu mewn Sefydliadau AB, AAA Ôl-16, Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llaeth Ysgol. Mae’r cyfrifoldeb am gyllid o £21.8m ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, y Rhaglen Blas am Oes a Chwnsela mewn Ysgolion wedi ei drosglwyddo ar sail reolaidd i’r MEG Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’r gyllideb yn manteisio ar gynnydd o £4.2m i liniaru’r pwysau ar y gyllideb Lleoliadau i Fyfyrwyr ag Anawsterau Dysgu mewn Sefydliadau AB, a ganfuwyd yn yr adolygiad o gyllidebau ac a gyllidir o arbedion effeithlonrwydd ar draws y MEG. Roedd codiadau o £2.3m wedi eu cynnwys mewn cyllidebau blaenorol.
30. Mae’r cynlluniau hyn yn cefnogi’r rhaglen o newid sy’n gysylltiedig â diwygio AAA, ac yn cynnwys cyllid ar gyfer gwaith datblygu mewn 8 awdurdod lleol. Neilltuwyd arian ar gyfer rhaglen dreigl o hyfforddiant mewn defnyddio offer a fydd yn sicrhau gwell cynllunio, gwell canlyniadau, cyfranogiad rhieni a ffyrdd o ddatrys anghydfod mewn perthynas â’r diwygiadau AAA.
Cymorth i Ddysgwyr Ôl-16: Cyllideb 2013-14 £319m
31. Mae’r gyllideb yn cynyddu o gymharu â 2012-13, o £8m net, a oedd wedi ei gynnwys mewn cyllidebau blaenorol. Mae’r gyllideb yn cynorthwyo cyllid myfyrwyr ac yn cynnwys Grant Dysgu’r Cynulliad, Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Dyfarniadau a Dargedir a’r elfen anariannol mewn benthyciadau myfyrwyr.
Ennyn Diddordeb Disgyblion: Cyllideb 2013-14 £12.8m
32.Mae’r gyllideb yn cynyddu o gymharu â 2012-13, o £0.6m net a oedd wedi ei gynnwys mewn cyllidebau blaenorol. Mae’r gyllideb yn cynnwys y Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig, Grant Addysg Plant Sipsiwn a Phlant Teithwyr a Threchu Dadrithiad.
Y Gymraeg: “Gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru.”
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cyllideb Ddrafft |
Cyllideb Ddangosol |
£000 |
£000 |
£000 |
24,976 |
25,076 |
25,076 |
Y Gymraeg mewn Addysg:
Cyllideb 2013-14 £16.2m
33.Mae’r gyllideb yn llai o gymharu â 2012-13, o £0.2m net a oedd wedi ei gynnwys mewn cyllidebau blaenorol. Mae’r gyllideb yn parhau’r cymorth ar gyfer cyflawni’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg sy’n un o ymrwymiadau allweddol ein Rhaglen Lywodraethu.
Y Gymraeg: Cyllideb 2013-14 £8.9m
34.Mae’r gyllideb yn llai o gymharu â 2012-13, o £0.3m net a oedd wedi ei gynnwys mewn cyllidebau blaenorol.
Cymorth Cyflawni: “Mae adnoddau’n cael eu rheoli ac yn cynorthwyo cyflawni’r canlyniadau.”
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cyllideb Ddrafft |
Cyllideb Ddangosol |
£000 |
£000 |
£000 |
4,191 |
4,049 |
4,049 |
Cyfathrebu Strategol:
Cyllideb 2013-14 £1.5m
35. Ni chynigir unrhyw newidiadau sylweddol yn y gyllideb hon.
Ymchwil a Gwasanaethau Addysg: Cyllideb 2013-14 £2.6m
36.Cynyddir y gyllideb ddangosol o £1m o gymharu â’r cynlluniau cyhoeddedig blaenorol, oherwydd trosglwyddo gweithgareddau rhyngwladol i mewn i Ymchwil a Gwasanaethau Addysg, o ganlyniad i ymarferiad lliflinio. Fodd bynnag, adlewyrchwyd y newid eisoes yng nghyllideb 2012-13.
Cyfalaf
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
Cyllideb Atodol Mehefin 2012 |
Cyllideb Ddrafft |
Cyllideb Ddangosol |
£000 |
£000 |
£000 |
178,293 |
177,134 |
153,834 |
37.Mae’r gyllideb yn llai o £1.1m net, o gymharu â 2012-13. Fodd bynnag, mae’r gyllideb yn cael budd o £33.3m mewn arian newydd (£10m yn 2014-15).
38.Darperir cyllid o £15m i alluogi cyflymu nifer o gynlluniau o dan y Rhaglen Fuddsoddi mewn Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, yn unol â’r flaenoriaeth buddsoddi ‘Gwella ansawdd yr ystâd addysgol’ a bennir yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i Hybu Twf a Swyddi.
39. Darperir £18.3m ychwanegol o’r Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog ar gyfer y prosiectau penodol a ddisgrifir ym mharagraff 8.
Crynodeb
40. Cyflwynir y Gyllideb Ddrafft Addysg a Sgiliau ar gyfer 2013-14 i’w hystyried gan y pwyllgor.